Talebau

Ydych chi'n chwilio am yr anrheg berffaith?

Beth am roi talebau Lolfa'r Teras i'ch ffrindiau a'ch teulu lle y gallant fwynhau cyfuniad o fwyd traddodiadol a chyfoes.

Mae'r Teras wedi'i leoli o fewn muriau'r brifysgol ac yn cael ei ganmol gan gwsmeriaid am yr awyrgylch braf, y gwasanaeth cyfeillgar a'r bwyd blasus. Dyma'r lle perffaith i fwynhau pryd o fwyd. 

Mae'r talebau ar werth yn Lolfa'r Teras yn unig ac maent ar gael mewn symiau o £10, £20 a £30.