Croeso i’r Lolfa’r Teras
Rydym yn eich gwahodd i ddod draw i fwynhau’r cyfuniad unigryw o’r clasurol a’r cyfoes, o ran cynllun y lle ei hun a’r bwyd a fydd ar gael yno.
Tan 11 y bore gellwch fwynhau brecwast syml o gacennau neu ‘baguettes’ brecwast poeth. Mwynhewch ein cinio ysgafn o topin tost i fwydlen cinio a phryd gyda’r nos mwy ffurfiol yn cynnwys y cynhwysion ffres gorau. Mae’r Teras hefyd yn darparu te prynhawn godidog gyda dewis helaeth o ddiodydd ar gael, neu pam na wnewch chi fynd draw yno i fwynhau un o’n pwdinau enwog.
Mae rhywbeth i bawb yn y fwydlen sy’n rhesymol ei phris ac yn gyforiog o greadigrwydd.
Mae’r Teras wedi derbyn tystysgrif ragoriaeth gan TripAdvisor yn seiliedig ar adolygiadau gwych gan deithwyr TripAdvisor. Mae’n cael ei ganmol yn rheolaidd gan gwsmeriaid am ei awyrgylch chwaethus, am y gwasanaeth cyfeillgar ac am ansawdd uchel y bwyd.
Mae Lolfa’r Teras yn cael ei weithredu gan Adran Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor.