Cyflogwr y Flwyddyn Gwobrau Chwarae Teg

Aelodau staff Adran Adnoddau Dynol (o'r chwith): Catherine Lees, Nia Meacher a Dr Alison Wiggett gyda chynrychiolw noddwyr Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn, Highgrade Recruitment.: Hwalfraint: Gwobrau 'Womanspire' Chwarae Teg 2016.Aelodau staff Adran Adnoddau Dynol (o'r chwith): Catherine Lees, Nia Meacher a Dr Alison Wiggett gyda chynrychiolw noddwyr Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn, Highgrade Recruitment.: Hwalfraint: Gwobrau 'Womanspire' Chwarae Teg 2016.Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ (y sector cyhoeddus) yng Ngwobrau ‘Womanspire’ Chwarae Teg.

Mae’r cynllun gwobrau newydd hwn yn cydnabod y cyfraniad neilltuol a wneir gan fenywod ym mhob rhan o’r gymdeithas yng Nghymru a’i nod yw symbylu menywod y dyfodol i lwyddo a ffynnu. Roedd y categorïau’n adlewyrchu amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn ffordd o annog ceisiadau gan fenywod o bob oedran ac o bob cefndir sydd yn falch o’r hyn y maent yn ei gyflawni - boed hynny yn eu bywydau preifat neu broffesiynol neu yn y gymuned ehangach. Yng nghategori Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn roedd Heddlu De Cymru, y DVLA, a Traveline Cymru hefyd wedi cael eu henwebu.

Dywedodd Lyn Meadows, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Prifysgol Bangor:

“Dan ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael ein dyfarnu’n Gyflogwr y Flwyddyn gan ein bod ni wedi gweithio’n galed yn y Brifysgol i adolygu datblygiad menywod ym mhob agwedd o’n gweithgareddau, o ddyrchafu uwch aelodau staff i annog merched i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.”

“Dan ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywiol ac wedi gwneud newidiadau i’n prosesau sydd wedi arwain yn uniongyrchol at gynnydd yn nifer y menywod sydd mewn uwch swyddi ac sy’n aelodau o’r grwpiau sy’n gwneud y prif benderfyniadau. Dan ni hefyd wedi bod yn rhoi cefnogaeth ymarferol i ddatblygu menywod a’u gyrfaoedd a dan ni wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o gefnogaeth i staff, gan gynnwys darpariaethau absenoldeb mamolaeth a thadolaeth a chefnogaeth arall i staff sydd efo plant ifanc.”

Meddai Joy Kent, prif weithredwr Chwarae Teg: “Rydym yn  falch efo sut aeth y noson Wobrwyo ‘Womanspire’ gyntaf. Mae wedi bod yn wych clywed gan gymaint o bobl ar y  noson ac wedyn, ac mae pawb  yn awyddus i weld y  digwyddiad yn troi’n un blynyddol. Os yw Cymru o ddifrif am wneud y defnydd gorau o gyfraniad menywod i’r gweithle mae’n rhaid i ni dynnu sylw at yr heriau sydd yn eu hwynebu nhw a dathlu’r sefydliadau a’r bobl hynny sydd yn gwneud gwaith da i’w gorchfygu.”

Mae Prifysgol Bangor hefyd yr un mor ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i’r naill a’r llall. 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2016