Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander

Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.

Enillodd Elen Hughes y wobr am y stondin orau yn Ffair Nadolig y Myfyrwyr. Wedi’r gystadleuaeth hon bydd ei busnes yn cael ei gyflwyno i rownd nesaf cystadleuaeth  Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.Enillodd Elen Hughes y wobr am y stondin orau yn Ffair Nadolig y Myfyrwyr. Wedi’r gystadleuaeth hon bydd ei busnes yn cael ei gyflwyno i rownd nesaf cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt,  bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.

Cyflwynwyd dau gategori newydd ar gyfer Gwobrau Entrepreneuraidd Santander eleni; ‘Technolegau newydd ac apps i ffonau symudol’  a 'Nwyddau a gwasanaethau beunyddiol o bwys’. Gallai’r ceisiadau fod yn syniadau’n unig neu eisoes wedi eu datblygu’n fusnesau  wedi eu lansio’n ddiweddar.

Yn dilyn y Gystadleuaeth, dewiswyd dau enillydd o’r categori Cynnyrch a gwasanaethau beunyddiol o bwys. Penderfynodd beirniaid y Brifysgol bod y ddau, Thomas McCarley ac Elen Hughes yn haeddu gwobr. Yn dilyn rownd ychwanegol, dewiswyd Elen i gynrychioli’r Brifysgol. Gweler yma fideo byr o Elen yn siarad am ei chwmni- Ffranc. 

Mae Elen Hughes o Gricieth wedi dechrau ei busnes bach yn creu gwaith celf personol ar gyfer unrhyw achlysur, ac yn gobeithio gwerthu ei anrhegion mewn siopau lleol a chynyddu maint ei busnes, gan ei bod hi ar fin cwblhau ei gradd yn y Gymraeg.

Roedd y cyn-ddisgybl o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli  wedi ei syfrdanu, ond yn falch iawn ei bod wedi ennill, ac meddai:

“Rwy’n meddwl bod cystadleuaeth fel hon yn rhoi hwb ac ysbrydoliaeth i gymryd eich busnes o ddifri, dim ots pa mor fach ydyw, ac yn ffordd wych o gael sylwadau adeiladol a gweld syniadau pobl eraill.”

Daw Thomas McCarley o Saron, pentref ger Rhydaman. Er ei fod yn astudio i gymhwyso fel athro, mae Thomas wedi dechrau busnes yn paratoi  danteithion  i gŵn, sydd o ansawdd uchel a ddim yn cynnwys glwten.

Daeth y syniad o’i awydd i fwydo bwyd maethlon i’w gi. Mae wedi dechrau gwerthu’r danteithion yn lleol a’r cam nesaf yw cynyddu’r cynhyrchu a’i werthu mewn mwy o siopau.

Meddai: “Roedd ennill yn annisgwyl: roedd syniadau gwych yn cael eu cyflwyno, ac mae ennill wedi rhoi ffydd i mi yn fy nghynnyrch.”

Yn cyflwyno’i syniad yn yr un dosbarth roedd Suita Diaz o Ysgol Fusnes y Brifysgol. Daw Suita o deulu  sydd yn tyfu a gwerthu coffi yn ei gwlad enedigol, Honduras. Mae hi’n teimlo’n angerddol dros ei model o fasnachu coffi’n uniongyrchol i yfwyr coffi  ym Mhrydain, ac yn gobeithio y bydd yn rhoi budd uniongyrchol i dyfwyr coffi yn Honduras.

Suita Diaz yn cyflwyno’i syniad busnes i’r beirniaid yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.   Suita Diaz yn cyflwyno’i syniad busnes i’r beirniaid yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander. Mae Suita, sy’n bump ar hugain, yn astudio am MA mewn Busnes a Marchnata drwy Ysgoloriaeth Chevening, wedi iddi raddio o Universidad Tecnológica Centroamericana, UNITEC (Honduras).

Meddai Suita: “Mae coffi’n rhoi cyfle i newid bywydau, fel yr ydw i’n dyst iddo. Prif bwrpas a chymhelliant y fenter  yw creu busnes a fydd yn hybu a gwella bywoliaeth ffermwyr a chaniatáu iddynt ffermio mewn modd mwy cynaliadwy, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn galluogi pobol ym Mhrydain i  fwynhau ein coffi Hondiwraidd blasus!”

Y buddugwyr yn  y categori Technoleg Newydd ac Aps Symudol  oedd tîm myfyrwyr o’r enw My Stryd, a’u ap i annog twf yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r Stryd Fawr.

Mae aelodau’r tîm, Nikita Savy, Sabria Behilil, Jack Morris, Leon Gartland ac Aleksandra Kozłowska  wedi cyfuno’u  harbenigedd mewn seicoleg, bancio a chyllid, peirianneg electronig, newyddiaduraeth a’r cyfryngau, a dylunio a datblygu gemau, er mwyn datblygu  eu syniadau.

Mae gan eu cynnyrch botensial i adfywio diddordeb a siopa ar Stryd Fawr Bangor drwy ap sydd ar ffurf gêm ac sydd yn  gwobrwyo pobl am fynychu siopau lleol;  yr un pryd mae’r busnesau lleol yn derbyn  gwybodaeth o bwys am bwy sydd yn dod i’w siopa, a hynny mewn model y gellir ei efelychu mewn trefi ar hyd y wlad.

Mae’r tîm wedi gwirioni efo’r canlyniadau ac yn  edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfleoedd newydd a ddaw yn ei sgil.  Eisoes mae busnesau ac Arloesi Pontio wedi dangos diddordeb, ac maent yn edrych ar ddechrau datblygu prototeip a  mireinio rhai  nodweddion a fyddai’n barod i’w dangos petaent yn cyrraedd y  rownd derfynol ym Mhrydain.

Beirniaid Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander, Siwan Mitchelmore, Aron Owen a Andy Goodman efo aelodau project My Stryd (Roedd yr Athro John G Hughes wedi gadael am gyfarfod arall)..Beirniaid Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander, Siwan Mitchelmore, Aron Owen a Andy Goodman efo aelodau project My Stryd (Roedd yr Athro John G Hughes wedi gadael am gyfarfod arall).Wrth siarad ar ran y grŵp dywedodd Leon Gartland: “Mae’r cyfle i gymryd rhan  mewn cystadleuaeth fel hyn yn her ac yn tynnu’r gorau allan mewn rhywun. Byddwn yn argymell i unrhyw fyfyriwr sy’n cael cynnig y cyfle i’w gymryd ac elwa i’r eithaf arno.  Gallai arwain at bethau mawr,  gyrfa lewyrchus efallai, neu eich gwneud yn fwy  cyflogadwy yn y dyfodol.

Meddai cadeirydd panel y beirniaid, yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:

“Unwaith yn rhagor mae ein myfyrwyr wedi rhoi tasg anodd i ni, gan fod safon y cyflwyniadau yn uchel iawn. Rydym yn meithrin ysbryd entrepreneuriaeth ymysg ein myfyrwyr, ac mae cymryd rhan yn y gweithgareddau entrepreneuraidd sydd yn cael eu darparu gan y Brifysgol yn  galluogi ein myfyrwyr i feithrin sgiliau busnes hanfodol a fydd efallai o ddefnydd yn ystod eu gyrfaoedd.”

Dyfarnwyd £200, ynghyd â chefnogaeth fentora bellach, i enillwyr pob categori er mwyn iddynt ddatblygu eu cynllunio busnes.

Caiff rownd Prifysgol Bangor  o Gystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander ei chyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Strategaeth Entrepreneuriaeth yr Ifanc (Youth Entrepreneurship Strategy  neu YES) yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016